|
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
|
|
||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Lesley Griffiths AC Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
30 Mehefin 2014 |
Annwyl Weinidog
Sesiwn craffu yn ystod y flwyddyn - cais am ragor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 25 Mehefin
Diolch am ddod i'n cyfarfod ar 25 Mehefin 2014 i roi tystiolaeth fel rhan o'n rhaglen craffu ar waith y Gweinidog yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y sesiwn, gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'r wybodaeth a ganlyn:
· nodyn ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn perthynas ag achosion pan fo un cyngor yn etifeddu diffyg gan gyngor arall wrth uno;
· rhestr o'r cynghorau cymunedol a'r cynghorau tref sydd wedi cael cyllid i sefydlu presenoldeb ar y we, a pha rai o'r cynghorau hyn sydd bellach â phresenoldeb ar y we;
· nifer y seddi ar gynghorau cymunedol a chynghorau sir sydd wedi bod yn wag yn hirdymor;
· dadansoddiad o'r ystadegau ar gyfer rhyw, oedran ac ethnigrwydd cynghorwyr sir, a dadansoddiad cymharol ar gyfer cynghorwyr cymunedol.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan.
Yn gywir

Christine Chapman AC
Cadeirydd